Darganfyddwch fath newydd o yrfa ym maes gofal iechyd fel arbenigwr swyddogaethol.
Ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn chwilio am newid? Os ydych chi’n nyrs (RMN, RNLD, RGN), therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg, gallech ddefnyddio eich sgiliau mewn ffordd wahanol fel arbenigwr swyddogaethol. Yng Ngwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd Capita (HAAS), rydym yn darparu asesiadau diduedd a chynhwysfawr ar gyfer hawlwyr budd-daliadau anabledd y Llywodraeth (Taliad Annibyniaeth Personol – PIP), dros y ffôn, drwy alwad fideo neu wyneb yn wyneb, naill ai mewn canolfannau asesu neu yng nghartrefi’r hawlwyr.
Job Description
Mae ein harbenigwyr swyddogaethol yn ysgrifennu adroddiadau sy’n helpu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch iechyd a gofal unigolion.
Efallai eich bod yn nyrs ar hyn o bryd ac yn awyddus i symud i ffwrdd o ddarparu gofal uniongyrchol – mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau asesu a defnyddio eich gwybodaeth broffesiynol i wneud argymhellion clinigol pwysig. Neu efallai eich bod yn therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg sydd am ddysgu gwerthuso sefyllfaoedd mewn ffordd a lleoliad gwahanol. Rydym yn chwilio am unigolion tosturiol sydd â’r profiad i ddeall cyflwr iechyd neu anabledd hawlwyr a’r effaith ar eu bywydau bob dydd.
Mae’r rôl hon yn wahanol i broffesiynau gofal iechyd eraill, a dyna pam rydym yn cymryd hyfforddiant a datblygiad o ddifrif. Byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr gyda amser wedi’i neilltuo ar gyfer dysgu a datblygu personol.
Os ydych chi’n chwilio am newid, gan gynnwys oriau gwaith mwy rheolaidd, cyflog cystadleuol ac yn barod i ehangu eich sgiliau a’ch profiad, gallai hon fod y rôl i chi.
Eich Prif Gyfrifoldebau
Mae hon yn rôl hybrid, gyda disgwyliad y byddwch yn gweithio gartref a hefyd yn cael eich neilltuo i weithio o’ch canolfan asesu agosaf ar sail rota i gynnal asesiadau wyneb yn wyneb
Qualifications
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â:
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau fetio Safon Diogelwch Personél Sylfaenol y Llywodraeth yn llwyddiannus. Dyma’r safon gydnabyddedig ar gyfer sgrinio cyn‑cyflogaeth unigolion sydd â mynediad at asedau’r Llywodraeth.
Diffinnir y rôl hon fel gweithgaredd rheoledig yn ymwneud â phlant neu oedolion bregus o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006, ac mae wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Byddwch yn cael gwiriad troseddol uwch, a fydd yn dangos collfarnau a dreuliwyd a heb eu treulio.
Additional Information
Byddwch wedi’ch contractio i weithio 7.5 awr y dydd, 37.5 awr yr wythnos (llawn amser). Gellir cytuno ar eich oriau gwaith penodol gyda’ch rheolwr llinell ar ôl hyfforddiant. Bydd patrymau gwaith rhwng 8.00yb a 8.00yh.
Am Capita HAAS
Dyfarnwyd dau gontract i Capita i ddarparu asesiadau’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (HAAS) yn y Canolbarth a Chymru ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer yr Adran Cymunedau (DfC).
Mae HAAS yn wasanaeth newydd sy’n dod â gwasanaethau asesu presennol ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd o dan un darparwr mewn pob rhanbarth daearyddol, gan wneud mynediad at gymorth yn symlach ac yn haws i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Bydd Capita yn darparu asesiadau ar gyfer PIP, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol (UC), ynghyd â nifer o fudd-daliadau arbenigol gan gynnwys Lwfans Byw i’r Anabl i Blant (DLA) ac asesiadau Veterans UK.
Mae Capita wedi bod yn darparu asesiadau PIP yn y Canolbarth a Chymru ers 2013, ac yng Ngogledd Iwerddon ers 2016.
Beth sydd ynddo i chi?
Bydd gennych gyfle i ddilyn eich llwybr gyrfa eich hun o fewn Capita, gan ymuno â rhwydwaith o weithwyr profiadol, arloesol ac ymroddedig ar draws sawl disgyblaeth a sector.
Beth i’w wneud nesaf
Dewiswch “Mae gen i Ddiddordeb” i gwblhau ein cais byr er mwyn i ni gael gwybod mwy amdanoch.
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn ystyried pob ymgeisydd cymwys waeth beth fo hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, statws anabledd neu unrhyw nodwedd warchodedig arall.
Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn sicrhau bod nifer deg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol yn cael cynnig cyfweliad. Am ragor o wybodaeth neu i drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â:
[email protected] neu 0300 303 8544
undefined – undefinedApply NowDescriptionundefined. The role will be carried out in the patients home and does require staying in a...
Apply For This JobEnglish Teacher – Maternity Cover Howell’s School, Llandaff Starting September 2026 Fixed term contract to cover maternity leave, teaching commitment...
Apply For This JobEstamos à procura de Recepcionista para compor nossa equipe do HOV – Unidade Vitória. Requisitos: Ensino Médio completo; Conhecimento de...
Apply For This JobBe part of an iconic story. At Calvin Klein, we believe in fostering an inclusive and collaborative culture by celebrating...
Apply For This JobJob DescriptionThe General Counsel’s Organization (GCO) is American Express’ legal and government affairs departments, along with the Corporate Secretary’s Office...
Apply For This JobSenior Service Desk Analyst Kingston Full-Time At Crew Clothing, we believe clothes are about so much more than “just clothes”....
Apply For This Job